Numeri 36:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth pennau-teuluoedd tylwythau meibion Gilead fab Machir, fab Manasse, un o dylwythau meibion Joseff, ymlaen a siarad â Moses a'r arweinwyr, sef pennau-teuluoedd pobl Israel,

2. a dweud, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD iti roi'r wlad yn etifeddiaeth i bobl Israel trwy'r coelbren, a rhoi etifeddiaeth ein brawd Seloffehad i'w ferched.

3. Yn awr, os priodant hwy â dynion o lwythau eraill ymysg yr Israeliaid, yna bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli o lwyth ein hynafiaid, ac yn cael ei throsglwyddo at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt, a bydd ein hetifeddiaeth ni yn dlotach o'r herwydd.

4. Pan ddaw jwbili pobl Israel, fe drosglwyddir eu hetifeddiaeth hwy at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt; felly, bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein hynafiaid.”

Numeri 36