Numeri 35:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,

2. “Gorchymyn i bobl Israel roi o'r etifeddiaeth a gânt ddinasoedd i'r Lefiaid i fyw ynddynt, a phorfeydd o amgylch y dinasoedd.

3. Caiff y Lefiaid fyw yn y dinasoedd, a bydd y porfeydd ar gyfer eu gwartheg, eu praidd, a'u holl anifeiliaid.

4. Bydd porfeydd y dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid yn ymestyn o fur y ddinas tuag allan am fil o gufyddau oddi amgylch.

Numeri 35