Numeri 34:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

17. “Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun.

18. Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth.

19. Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne;

20. o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud;

21. o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon;

22. o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli;

23. o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad;

Numeri 34