Numeri 33:36-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.

37. Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.

38. Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.

39. Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.

40. Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.

41. Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.

42. Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.

Numeri 33