Numeri 3:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd.”

16. Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

17. Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.

18. Dyma enwau meibion Gerson yn ôl eu tylwythau: Libni a Simei.

Numeri 3