Numeri 29:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.

23. “Ar y pedwerydd dydd: deg bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,

24. gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;

25. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.

Numeri 29