Numeri 28:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.

23. Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd.

24. Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.

25. Ar y seithfed dydd yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol.

26. “Ar ddydd blaenffrwyth y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â bwydoffrwm newydd i'r ARGLWYDD yn ystod gŵyl yr Wythnosau, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol.

Numeri 28