Numeri 27:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd dyn farw heb fab, yr ydych i drosglwyddo ei etifeddiaeth i'w ferch.

9. Os na fydd ganddo ferch, rhowch ei etifeddiaeth i'w frodyr.

10. Os na fydd ganddo frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i frodyr ei dad.

11. Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.’ ” Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dringa'r mynydd hwn, sef Mynydd Abarim, ac edrych ar y wlad a roddais i bobl Israel.

Numeri 27