Numeri 27:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.’ ” Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dringa'r mynydd hwn, sef Mynydd Abarim, ac edrych ar y wlad a roddais i bobl Israel.

13. Ar ôl iti ei gweld, fe'th gesglir dithau at dy bobl, fel y casglwyd dy frawd Aaron,

14. am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn yn anialwch Sin, a gwrthod fy sancteiddio yng ngŵydd y cynulliad pan fu cynnen yn eu plith wrth y dyfroedd.” Dyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin oedd y rhain.

15. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD,

16. “Boed i'r ARGLWYDD, Duw ysbryd pob peth byw, benodi rhywun dros y cynulliad

Numeri 27