Numeri 21:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw.”

9. Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.

10. Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth,

11. a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn â Moab, tua chodiad haul.

12. Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared,

13. aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid.

14. Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sôn am“Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,

Numeri 21