Numeri 18:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Aaron, “Ni chei di etifeddiaeth yn eu tir na chyfran yn eu mysg; myfi yw dy gyfran di a'th etifeddiaeth ymysg pobl Israel.

21. “Yr wyf yn rhoi yn etifeddiaeth i'r Lefiaid bob degwm yn Israel, yn dâl am eu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

22. Nid yw'r Israeliaid mwyach i ddynesu at babell y cyfarfod, neu byddant yn atebol am eu pechod ac yn marw.

23. Ond y mae'r Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddant hwy'n atebol am eu camweddau; bydd hyn yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau. Ni fydd gan y Lefiaid etifeddiaeth ymhlith pobl Israel,

24. oherwydd fe roddaf yn etifeddiaeth iddynt hwy y degwm a gyflwynir gan bobl Israel yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam y dywedais wrthynt na fydd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith pobl Israel.”

25. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

26. “Dywed hefyd wrth y Lefiaid, ‘Pan gymerwch gan bobl Israel y degwm a roddais i chwi'n etifeddiaeth, yr ydych i gyflwyno ohono offrwm i'r ARGLWYDD, sef degwm o'r degwm.

Numeri 18