Numeri 11:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Pan redodd llanc ifanc a mynegi i Moses fod Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll,

28. dywedodd Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses o'i ieuenctid, “Moses, f'arglwydd, rhwystra hwy.”

29. Ond dywedodd Moses wrtho, “Ai o'm hachos i yr wyt yn eiddigeddus? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, ac y byddai ef yn rhoi ei ysbryd arnynt!”

30. Yna dychwelodd Moses a henuriaid Israel i'r gwersyll.

31. Anfonodd yr ARGLWYDD wynt a barodd i soflieir ddod o'r môr a disgyn o amgylch y gwersyll; yr oeddent tua dau gufydd uwchlaw wyneb y tir, ac yn ymestyn dros bellter o daith diwrnod o bob tu i'r gwersyll.

Numeri 11