Numeri 1:46-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.

47. Ond ni rifwyd y Lefiaid yn ôl llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel,

48. oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,

49. “Paid â chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel;

50. ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch.

Numeri 1