Numeri 1:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant.

30. O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

31. Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant.

32. O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

Numeri 1