Nehemeia 9:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud,‘Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft’,a chablu'n ddirfawr,

19. yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch.Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwla'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd,na'r golofn dân liw nos,a oleuai'r ffordd a dramwyent.

20. Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo;nid ateliaist dy fanna rhagddynt;rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched.

21. Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwchheb fod arnynt eisiau dim;nid oedd eu dillad yn treuliona'u traed yn chwyddo.

22. “Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd,a rhoi cyfran iddynt ymhob congl.Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbona gwlad Og brenin Basan.

Nehemeia 9