Nehemeia 13:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yr adeg honno nid oeddwn i yn Jerwsalem, oherwydd yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes brenin Babilon yr oeddwn wedi mynd at y brenin. Ychydig yn ddiweddarach gofynnais ei ganiatâd i ddychwelyd.

7. Pan gyrhaeddais Jerwsalem gwelais y camwri a wnaeth Eliasib ynglŷn â Tobeia trwy roi ystafell iddo yng nghynteddoedd tŷ Dduw.

8. Cythruddodd hyn fi'n ddirfawr, a theflais ddodrefn Tobeia i gyd allan o'r ystafell;

9. a gorchmynnais iddynt buro'r ystafelloedd, a rhoddais lestri tŷ Dduw a'r bwydoffrwm a'r thus yn ôl yno.

10. Darganfûm hefyd nad oedd y Lefiaid wedi derbyn eu cyfrannau, a'u bod hwy a'r cantorion oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau wedi mynd i ffwrdd i'w ffermydd.

11. Yna ceryddais y swyddogion a dweud, “Pam y cafodd tŷ Dduw ei esgeuluso?” Ac fe'u cesglais at ei gilydd, a'u gosod yn ôl wrth eu gwaith.

12. Yna daeth holl Jwda â degwm yr ŷd a'r gwin a'r olew i'r trysordai.

Nehemeia 13