Nehemeia 13:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Yr oedd un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, yn fab-yng-nghyfraith i Sanbalat yr Horoniad; am hynny gyrrais ef o'm gŵydd.

29. Cofia hwy, O fy Nuw, am iddynt halogi'r offeiriadaeth a chyfamod yr offeiriaid a'r Lefiaid.

30. Yna glanheais hwy oddi wrth bopeth estron, a threfnais ddyletswyddau i'r offeiriaid a'r Lefiaid, pob un yn ei swydd.

31. Gwneuthum ddarpariaeth hefyd ar gyfer coed yr offrwm ar wyliau penodedig, ac ar gyfer y blaenffrwyth. Cofia fi, fy Nuw, er daioni.

Nehemeia 13