Nehemeia 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y diwrnod hwnnw, yn ystod y darlleniad o lyfr Moses i'r bobl, cafwyd ei bod yn ysgrifenedig nad oedd Ammoniaid na Moabiaid byth i ddod i mewn i gynulleidfa Duw,

2. am na ddaethant i gyfarfod â'r Israeliaid â bwyd a diod, eithr yn hytrach gyflogi Balaam yn eu herbyn, i'w melltithio; ond fe drodd ein Duw y felltith yn fendith.

3. A phan glywsant y gyfraith gwahanwyd oddi wrth Israel bawb o waed cymysg.

4. Ond cyn hyn yr oedd Eliasib yr offeiriad wedi ei wneud yn gyfrifol am ystafelloedd tŷ ein Duw.

Nehemeia 13