Nehemeia 11:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ac o'r Lefiaid: Semaia fab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia, fab Bunni;

16. a Sabbethai a Josabad o benaethiaid y Lefiaid oedd yn arolygu'r gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw;

17. a Mataneia fab Meica, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y mawl, oedd yn talu diolch yn ystod y gweddïau, a Bacbuceia, yr ail ymysg ei frodyr, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun.

18. Cyfanswm y Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oedd dau gant wyth deg a phedwar.

19. Yr oedd y porthorion oedd yn gwylio'r pyrth, sef Accub, Talmon a'u brodyr, yn gant saith deg a dau.

20. Ac yr oedd y gweddill o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth ei hun.

Nehemeia 11