Nehemeia 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Geiriau Nehemeia fab Hachaleia. Ym mis Cislef yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn yn y palas yn Susan,

2. cyrhaeddodd Hanani, un o'm brodyr, a gwŷr o Jwda gydag ef. Holais hwy am Jerwsalem ac am yr Iddewon, y rhai dihangol a adawyd ar ôl heb fynd i'r gaethglud.

3. Dywedasant hwythau wrthyf, “Y mae'r gweddill a adawyd ar ôl yn y dalaith, heb eu caethgludo, mewn trybini mawr a gofid; drylliwyd mur Jerwsalem a llosgwyd ei phyrth â thân.”

Nehemeia 1