Nahum 3:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Taflaf fudreddi drosot,gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.

7. Yna bydd pob un a'th wêl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud,‘Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla â hi?’O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?”

8. A wyt yn well na Thebes,sydd ar lannau'r Neil,gyda dŵr o'i hamgylch,y môr yn fur,a'r lli yn wrthglawdd iddi?

9. Ethiopia oedd ei chadernid,a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;Put a Libya oedd ei chymorth.

10. Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.

11. Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig,ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.

Nahum 3