Micha 6:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda,a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt:dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch,ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

9. Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas—y mae llwyddiant o ofni ei enw:“Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas.

10. A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhŷ'r twyllwr,a'r mesur prin sy'n felltigedig?

11. A oddefaf gloriannau twyllodrus,neu gyfres o bwysau ysgafn?

12. Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais,a'i thrigolion yn dweud celwydd,a thafodau ffals yn eu genau.

13. Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo,i'th anrheithio am dy bechodau:

Micha 6