Micha 2:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol,ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.

10. Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi,oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon.

11. Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud,“Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”

12. “Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob,a chynullaf ynghyd weddill Israel;gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra,fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.

13. Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen;torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan. eu brenin o'u blaenau,a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain.”

Micha 2