Mathew 6:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Felly, gweddïwch chwi fel hyn:“ ‘Ein Tad yn y nefoedd,sancteiddier dy enw;

10. deled dy deyrnas;gwneler dy ewyllys,ar y ddaear fel yn y nef.

11. Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;

12. a maddau inni ein troseddau,fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;

13. a phaid â'n dwyn i brawf,ond gwared ni rhag yr Un drwg.’

14. “Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi.

Mathew 6