Mathew 4:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;

16. y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr,ac ar drigolion tir cysgod angauy gwawriodd goleuni.”

17. O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”

18. Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.

19. A dywedodd wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.”

Mathew 4