Mathew 3:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Meddai Iesu wrtho, “Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn.” Yna gadodd Ioan iddo ddod.

16. Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno.

17. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.”

Mathew 3