Mathew 28:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: “Peidiwch chwi ag ofni,” meddai. “Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych.

6. Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu'n gorwedd.

7. Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Dyna fy neges i chwi.”

8. Aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd, mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedeg i ddweud wrth ei ddisgyblion.

9. A dyma Iesu'n cyfarfod â hwy a dweud, “Henffych well!” Aethant ato a gafael yn ei draed a'i addoli.

Mathew 28