Mathew 27:37-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.”

38. Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith.

39. Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau

40. ac yn dweud, “Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes.”

Mathew 27