Mathew 26:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,

7. daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd.

8. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn?

9. Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion.”

10. Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.

Mathew 26