Mathew 26:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. ac o'r pryd hwnnw dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.

17. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Ble yr wyt ti am inni baratoi i ti fwyta gwledd y Pasg?”

18. Dywedodd yntau, “Ewch i'r ddinas at ddyn arbennig a dywedwch wrtho, ‘Y mae'r Athro'n dweud, “Y mae fy amser i'n agos; yn dy dŷ di yr wyf am gadw'r Pasg gyda'm disgyblion.” ’ ”

19. A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynnodd Iesu iddynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

20. Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg.

21. Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i.”

Mathew 26