Mathew 25:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Atebodd yntau, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.’

13. Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.

14. “Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal.

15. I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref.

16. Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu â hwy, ac fe enillodd atynt bump arall.

17. Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt.

18. Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr.

19. Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn ôl ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy.

Mathew 25