Mathew 24:46-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;

47. yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.

48. Ond os yw'r gwas hwnnw'n ddrwg, ac os dywed yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi’,

49. a dechrau curo'i gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon,

50. yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr;

51. ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r rhagrithwyr; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

Mathew 24