Mathew 24:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml.

2. Dywedodd yntau wrthynt, “Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.”

3. Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?”

4. Atebodd Iesu hwy, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.

5. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw'r Meseia’, ac fe dwyllant lawer.

Mathew 24