Mathew 19:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dilynodd tyrfaoedd mawr ef, ac iachaodd hwy yno.

3. Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, “A yw'n gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?”

4. Atebodd yntau gan ofyn, “Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?”

5. A dywedodd, “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.

6. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.”

Mathew 19