Mathew 19:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy holi am yr hyn sy'n dda? Un yn unig sy'n dda. Ond os mynni fynd i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.”

18. Meddai yntau wrtho, “Pa rai?” Atebodd Iesu, “ ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha,

19. anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ ”

20. Dywedodd y dyn ifanc wrtho, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?”

21. Meddai Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.”

Mathew 19