Mathew 18:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith.

23. Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision.

24. Dechreuodd ar y gwaith, a dygwyd ato was oedd yn ei ddyled o ddeng mil o godau o arian.

25. A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd â'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled.

26. Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen ei feistr a dweud, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf y cwbl iti.’

27. A thosturiodd meistr y gwas hwnnw wrtho; gollyngodd ef yn rhydd a maddau'r ddyled iddo.

28. Aeth y gwas hwnnw allan a daeth o hyd i un o'i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gant o ddarnau arian; ymaflodd ynddo gerfydd ei wddf gan ddweud, ‘Tâl dy ddyled.’

29. Syrthiodd ei gydwas i lawr a chrefodd arno, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf iti.’

30. Ond gwrthododd; yn hytrach fe aeth a'i fwrw i garchar hyd nes y talai'r ddyled.

Mathew 18