Mathew 16:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Rhoddaf iti allweddau teyrnas nefoedd, a beth bynnag a waherddi ar y ddaear a waherddir yn y nefoedd, a beth bynnag a ganiatei ar y ddaear a ganiateir yn y nefoedd.”

20. Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.

21. O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.

22. A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.”

23. Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, “Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.”

24. Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.

25. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.

26. Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?

Mathew 16