34. Gofynnodd Iesu iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau, “ac ychydig bysgod bychain.”
35. Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear.
36. Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.
37. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben.
38. Yr oedd y rhai oedd yn bwyta yn bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.