Mathew 14:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, “Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?”

32. Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.

33. Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, “Yn wir, Mab Duw wyt ti.”

34. Wedi croesi'r môr daethant i dir yn Genesaret.

Mathew 14