Mathew 13:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Daeth tyrfaoedd mawr ynghyd ato, nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch, ac yr oedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y lan.

3. Fe lefarodd lawer wrthynt ar ddamhegion, gan ddweud: “Aeth heuwr allan i hau.

4. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.

5. Syrthiodd peth arall ar leoedd creigiog, lle na chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear.

6. Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.

7. Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu.

8. A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.

9. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.”

10. Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?”

11. Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd.

12. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo.

13. Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall.

Mathew 13