Mathew 1:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor,

14. Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd,

15. Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob.

16. Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, gŵr Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia.

17. Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.

Mathew 1