Marc 8:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith.

10. Ac yna aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha.

11. Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno.

12. Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. “Pam,” meddai, “y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon.”

13. A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.

14. Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch.

15. A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.”

Marc 8