Marc 7:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ac wedi iddo fynd i'r tŷ oddi wrth y dyrfa, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi am y ddameg.

18. Meddai yntau wrthynt, “A ydych chwithau hefyd yr un mor ddiddeall? Oni welwch na all dim sy'n mynd i mewn i rywun o'r tu allan ei halogi,

19. oherwydd nid yw'n mynd i'w galon ond i'w gylla, ac yna y mae'n mynd allan i'r geudy?” Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn lân.

20. Ac meddai, “Yr hyn sy'n dod allan o rywun, dyna sy'n ei halogi.

Marc 7