Marc 3:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot,

19. a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.

20. Daeth i'r tŷ; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed.

21. A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, “Y mae wedi colli arno'i hun.”

22. A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”

Marc 3