Marc 2:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Daethant â dyn wedi ei barlysu ato, a phedwar yn ei gario.

4. A chan eu bod yn methu dod â'r claf ato oherwydd y dyrfa, agorasant do'r tŷ lle'r oedd, ac wedi iddynt dorri trwodd dyma hwy'n gollwng i lawr y fatras yr oedd y claf yn gorwedd arni.

5. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”

6. Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno ac yn meddwl ynddynt eu hunain,

7. “Pam y mae hwn yn siarad fel hyn? Y mae'n cablu. Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?”

8. Deallodd Iesu ar unwaith yn ei ysbryd eu bod yn meddwl felly ynddynt eu hunain, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl pethau fel hyn ynoch eich hunain?

Marc 2