Marc 15:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.

16. Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai.

17. A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben.

18. A dechreusant ei gyfarch: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”

Marc 15