63. Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Pa raid i ni wrth dystion bellach?
64. Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?” A'u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth.
65. A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau.
66. Yr oedd Pedr islaw yn y cyntedd. Daeth un o forynion yr archoffeiriad,
67. a phan welodd Pedr yn ymdwymo edrychodd arno ac meddai, “Yr oeddit tithau hefyd gyda'r Nasaread, Iesu.”
68. Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac aeth allan i'r porth.
69. Gwelodd y forwyn ef, a dechreuodd ddweud wedyn wrth y rhai oedd yn sefyll yn ymyl, “Y mae hwn yn un ohonynt.”