Marc 14:56-61 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

56. Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.

57. Cododd rhai a chamdystio yn ei erbyn,

58. “Clywsom ni ef yn dweud, ‘Mi fwriaf i lawr y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall heb fod o waith llaw.’ ”

59. Ond hyd yn oed felly nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.

60. Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed yn y canol, a holodd Iesu: “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?”

61. Parhaodd yntau'n fud, heb ateb dim. Holodd yr archoffeiriad ef drachefn, ac meddai wrtho, “Ai ti yw'r Meseia, Mab y Bendigedig?”

Marc 14