28. Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, “Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di.”
29. Meddai Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl,
30. na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.
31. Ond bydd llawer sy'n flaenaf yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.”
32. Yr oeddent ar y ffordd yn mynd i fyny i Jerwsalem, ac Iesu'n mynd o'u blaen. Yr oedd arswyd arnynt, ac ofn ar y rhai oedd yn canlyn. Cymerodd y Deuddeg ato drachefn a dechreuodd sôn wrthynt am yr hyn oedd i ddigwydd iddo:
33. “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd;
34. a gwatwarant ef, a phoeri arno a'i fflangellu a'i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda.”