Marc 10:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent.

3. Atebodd yntau hwy gan ofyn, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?”

4. Dywedasant hwythau, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith.”

5. Ond meddai Iesu wrthynt, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi.

6. Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy.

7. Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig,

8. a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.

Marc 10